Neidio i'r prif gynnwys
gwaith celf lliwgar o siapiau croestoriadol
25 Mehefin - 13 Hydref

Stephen Kingston

'Mae darlunio a phaentio wedi bod yn greiddiol i'm mywyd erioed, mae'n ffordd o weld a chreu meddyliau, syniadau a theimladau.'

Arddulliau

Haniaethol, Cyfoes, Ffigurol

Cyfryngau

Paent ar ddur, Paent ar alwminiwm, Graffit, Dyfrlliw, Olew, Inc, Pastel, Siarcol

'Mae darlunio a phaentio wedi bod yn greiddiol i'm mywyd erioed, mae'n ffordd o weld a chreu meddyliau, syniadau a theimladau' eglurwyd Stephen Kingston. 'Yn y gorffenol bûm yn gweithio ar furluniau, yn aml mewn mannau cyhoeddus, sydd yn berthnasol i'r lle a'r bobl sy'n ymweld. Mae agweddau o fywyd beunyddiol yn fy ysbrydoli a chânt eu hadlewyrchu yn fy ngwaith ffigurol a haniaethol. Yn ddiweddar, bûm yn canolbwyntio ar weithiau mwy o faint a datblygu syniadau haniaethol, gan arbrofi â phaentio ar ddur ac alwminiwm. Bydd yr arddangosfa o fy ngwaith yn Oriel Môn yn gwireddu fy ngwaith ffigurol a fy ngwaith haniaethol, gan gynnig amrywiaeth eang o destunau yn eu holl ffurfiau a lliwiau'.

www.stephenkingston.com

Arddangosion

Oriel o 2 arddangosion

siapiau haniaethol lliwgar mewn lliwiau llachar a phastel
Teitl:

Image 1

tair sgwâr yn gorgyffwrdd, mwyaf yn oren a'r ddwy arall mewn lliw brown
Teitl:

Image 2