Oriel Môn
Arddangosfeydd
Amgueddfa
- AmgueddfaFel amgueddfa achrededig, mae gan Oriel Môn gasgliad hynod ddiddorol ac amrywiol o wrthrychau ac arteffactau.
Hanes
Sut y cafodd yr Oriel ei sefydlu a'i adeiladu
Yn 1981, prynodd Cyngor Sir Ynys Môn gasgliad stiwdio Charles Tunnicliffe, a fu farw ym 1979. Roedd yr arlunydd wedi byw ym Malltraeth, Ynys Môn ers symud yno o'i ardal enedigol yn Swydd Gaer ym 1947.
Trwy ymdrechion y cyngor, ynghyd â phenderfyniad dilynwyr o'i waith, prynwyd y casgliad hwn yn ei gyfanrwydd a'i ddiogelu ar gyfer trigolion yr ynys a'i hymwelwyr.
Yn dilyn y caffaeliad hwn, penderfynwyd bod angen cartref parhaol i’r casgliad.
Arweiniodd y curadur, Denise Morris, dîm a lwyddodd i sefydlu Oriel Ynys Môn - amgueddfa ac oriel bwrpasol a agorodd ym 1991 i gasglu ac arddangos celf ac arteffactau yn ymwneud ag Ynys Môn.




Yn ogystal â chasgliad Charles Tunnicliffe, mae yna hefyd gasgliadau celf sylweddol o waith gan Syr Kyffin Williams a’r chwiorydd Massey yn ogystal ag arlunwyr adnabyddus o Gymru gan gynnwys Claudia Williams, Gwilym Pritchard a Peter Prendergast.
Yn 2008, ehangodd Oriel Môn, gan ychwanegu oriel - Oriel Kyffin Williams a all arddangos eitemau o gasgliadau cenedlaethol.
Ariannwyd yr oriel trwy werthu argraffiad cyfyngedig o brintiau yn seiliedig ar luniadau Kyffin Williams, cyllid gan ei gorff llywodraethu - Cyngor Sir Ynys Môn, rhoddion gan y cyhoedd trwy Ymddiriedolaeth Kyffin Williams a Chyngor Celfyddydau Cymru.