
Caffi
Caffi Bach y Bocs yn Oriel Môn

Yn y Caffi Bach a’i arlwy, y mae blas Môn a blys mwy. Cewch groeso cynnes, paned i dorri syched a bwyd blasus at ddant pawb.
Gweinir Brecwast rhwng 10am a 11:30am, Cinio o 12pm tan 2pm, ac amrywiaeth o deisennau tan 4:30pm. Mae hefyd modd archebu Te Prynhawn ymlaen llaw drwy ebost, a weinir rhwng 2:30pm a 4pm (bydd angen rhybudd o 48awr).
Os yn grŵp o ddeg neu fwy, mae modd archebu bwrdd o flaen llaw drwy ebost.
Cysylltwch â ni: caffibach@ybocs.cymru
Bwydlen
Cŵn
Dim ond cŵn cymorth.
Wifi
Wi-fi am ddim yn y caffi.
Anghenion diet
Rydym yn paratoi popeth ein hunain gan ddefnyddio cynnyrch ffres. Rydym yn cynnig opsiynau llysieuol/figan a heb glwten.