
Cefnogi ni
Drwy gefnogi oriel Môn gyda rhodd, Aelodaeth neu wirfoddoli rydych yn helpu oriel Môn i fod yn gartref i dreftadaeth a diwylliant Ynys Môn.
Nawdd cofforaethol
Ydych chi'n unigolyn, busnes neu gwmni a fyddai'n hoffi rhoi rhywbeth yn ôl i Ynys Môn? P'run ai hanes, celf neu ddysgu sy’n mynd â’ch bryd, mae gennym nifer o gyfleoedd noddi y gellir eu teilwra ar eich cyfer.
Gadewch gymynrodd yn eich ewyllys
Rydym yn dibynnu ar grantiau a rhoddion i gyflwyno’n harddangosfeydd a'n rhaglenni addysgol, yn ogystal ag i ofalu am ein casgliadau - y gwaith celf a'r arteffactau sy'n gwneud Ynys Môn yn arbennig. Trwy gofio amdanom yn eich ewyllys, byddwch yn sicrhau y gall cenedlaethau o bobl sy'n byw ac yn gweithio yn Ynys Môn ac yn ymweld â hi, gael eu hysbrydoli gan ei chelf ysbrydoledig a'i straeon unigryw.
Waeth pa mor fawr neu fach yw, bydd rhodd yn ein helpu i gyflawni ac ehangu ein gwaith. Credwn y dylai’r rhai sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys fod â’r hawl i gael mynediad yn rhad ac am ddim i rai o waith celf ac arteffactau gorau'r genedl. A dweud y gwir, gwyddom y gall newid bywydau pobl.
I adael cymynrodd, bydd angen i chi gynnwys manylion yr Ymddiriedolaeth yn eich ewyllys, gan gynnwys yr enw, y rhif a'r cyfeiriad cyswllt;