Neidio i'r prif gynnwys
Logo

Hygyrchedd

Ein polisi hygyrchedd

Mae gwefan Oriel Môn yn defnyddio cod HTML dilys ac arddulliau CSS. Rydym yn anelu at wneud ein gwefan mor hygyrch â phosib i bawb ac rydym wedi’ dylunio’r wefan i gydsynio gydag arweiniad a gofynion y Llywodraeth ac i gyrraedd safonau’r WAI (Web Accessibility Initiative) 2.1 ar raddfa “AA”. Mae dyluniad y safle yn ymatebol ac mae cynllun ein tudalennau gwe yn newid yn dibynnu ar a ydych chi’n defnyddio cyfrifiadur, llechen electronig neu ffôn symudol.

Datganiad hygyrchedd

Defnyddio'r wefan hon

Caiff y wefan hon ei rhedeg gan Cyngor Sir Ynys Môn. Rydym yn awyddus i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Mae hynny’n golygu er enghraifft y dylech chi fod yn gallu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • closio i mewn hyd at 300% heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • llywio drwy’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio drwy’r rhan fwyaf o’r wefan drwy ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan drwy ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet (dolen gyswllt allanol) gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w ddefnyddio os oes gennych chi anabledd.

Hygyrchedd y wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch.

  • nid yw’r rhan fwyaf o ddogfennau PDF yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin.
  • cynnwys sydd o dan reolaeth rhywun arall - er enghraifft, system dalu trydydd parti neu fotymau cyfryngau tebyg i gyfryngau cymdeithasol.

Beth i'w wneud os na allwch gael mynediad i rannau o'r wefan hon

Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fformat hawdd i'w ddarllen, recordiad sain neu braille, ebostiwch: orielynysmon@ynysmon.llyw.cymru

Fe fyddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi mewn 5 diwrnod.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch chi o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â thîm yr Oriel: orielynysmon@ynysmon.llyw.cymru

Cysylltwch â ni gyda ffôn neu mewn person

Ewch i'n tudalen Cynllunio eich ymweliad am wybodaeth ar sut i ddefnyddio ein cyfleusterau.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os nad ydych yn hapus gyda sut rydym yn ymateb i’ch cwyn cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS) (dolen gyswllt allanol).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd 2018 Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2).

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol gyda safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 (dolen gyswllt allanol) o ganlyniad i'r enghreifftiau nad ydynt yn cydymffurfio a restrir isod.

  • nid yw rhai dogfennau PDF yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenwyr sgrin. Ein cynllun yw sicrhau bod yr holl dogfennau pdf a gyhoeddwyd yn cael eu trosi'n ddogfennau hygyrch. Bydd cyhoeddiadau cymhleth e.e. Byddwn yn atodi fersiynau testun-yn-unig hygyrch o cylchlythyrau a thaflenni sy'n cael eu cynhyrchu i'w hargraffu.
  • cynnwys trydydd parti sydd o dan reolaeth rhywun arall - er enghraifft, system dalu trydydd parti neu fotymau cyfryngau tebyg i gyfryngau cymdeithasol

Beth ydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn gweithio gyda'r Ganolfan Hygyrchedd Digidol i greu cynllun i unioni'r materion a nodwyd.

Rydym bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch chi o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch a thîm yr Oriel: orielynysmon@ynysmon.llyw.cymru

 

Cafodd y datganiad hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 25 Medi 2020.

 

Cyngor hygyrchedd

Porwyr

Rydym yn argymell eich bod yn cadw'r system weithredu a'r porwr gwe ar eich dyfais yn gyfredol er mwyn y diogelwch a'r cydnawsedd gorau. Gallwch ddarganfod pa mor gyfoes yw eich porwr ar safle fel: https://www.whatismybrowser.com

Cymraeg Clir

Rydym yn ceisio ysgrifennu mewn Cymraeg clir ac osgoi jargon lle bo hynny'n bosibl. Os nad ydych yn deall rhywbeth, rhowch wybod i ni.

Newid gosodiadau porwr

Gallwch hefyd newid gosodiadau ar gyfer eich porwr gwe neu ddyfais i wella'ch profiad yn unol â'ch anghenion a'ch dewisiadau. Mae AbilityNet, yn rhoi arweiniad ar sut i:

Cynnwys wedi'i fewnosod

Mae ein gwefan yn defnyddio cynnwys sydd wedi'i fewnosod o wefannau eraill. Gall hyn arwain at lai o hygyrchedd wrth geisio cyrchu cynnwys yn uniongyrchol gan ddefnyddio'r dechnoleg darllenydd bysellfwrdd neu sgrin. Os byddwch chi'n dod ar draws problem gyda hyn, cysylltwch â ni fel y gallwn eich cynorthwyo lle bo hynny'n bosibl a cheisio cywiro'r broblem.

Efallai y byddwn yn defnyddio offer fel YouTube i ddangos fideo. Mae rhai o'r systemau rydyn ni'n eu defnyddio ar gyfer pethau fel cymryd taliadau, mapio, ceisio am swyddi neu edrych am geisiadau cynllunio (i enwi dim ond rhai) yn cael eu darparu gan drydydd parti. Er ein bod bob amser yn pwysleisio pwysigrwydd hygyrchedd a defnyddioldeb, byddwn yn aml yn dibynnu ar gyflenwyr y systemau hyn i ddiweddaru eu meddalwedd. Yn yr un modd, nid oes gennym reolaeth dros y gwefannau allanol yr ydym yn cysylltu â hwy.