Amdanom ni
Mae Oriel Môn yn amgueddfa ac oriel gelf yn Llangefni, Ynys Môn.
Mae’r amgueddfa yn olrhain hanes Môn dros filoedd o flynyddoedd, yn yr oriel gelf rydym yn arddangos y gorau o artistiaid cyfoes a chrefftwyr lleol ac yn Oriel Kyffin rydym yn gallu cynnal arddangosfeydd o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol.
Ein amcanion yw:
- ymgysylltu ymwelwyr gyda casgliadau ac arddangosfeydd ysbrydoledig ar eu stepen drws
- creu canolfan ganolog sydd yn diffinio ynys a’i phobl
- cynnig gofod cymdeithasol gyda cyfleon cyffroes ar gyfer cyfranogiad
- datblygu canolfan gwydn, cynaliadwy ac arloesol ar gyfer rhagoriaeth
Caiff Oriel Môn ei rheoli a’i chynnal gan Gyngor Sir Ynys Môn, ac mae'n rhan o'r Adran Ddysgu.
Mae Oriel Môn yn cydymffurfio â pholisïau a strategaethau Cyngor Ynys Môn ac yn cyfrannu atynt yn ogystal ag â strategaethau cenedlaethol a dogfennau cyfreithiol, megis y Ddeddf Llesiant.
Mae Oriel Môn yn Amgueddfa Achrededig Llawn (rhif.156) ac mae'n rhan o rwydwaith mawr o amgueddfeydd gan gynnwys Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru, Cymdeithas yr Amgueddfeydd, Cymdeithas yr Amgueddfeydd Annibynnol a Chymdeithas y Mentrau Diwylliannol.
Cefnogir Oriel Môn gan Ymddiriedolaeth Oriel Môn ac mae'n gweithio'n agos ag Ymddiriedolaeth Kyffin Williams.