Cynllunio eich ymweliad
Dyma rai cwestiynau cyffredin am yr hyn sydd ar gael yn Oriel Môn.
Mynediad a chyfleusterau i ymwelwyr anabl
Mae crynodeb o'n cyfleusterau a sut i gael o gwmpas y safle i'w weld isod. Am fanylion llawn sut i gael o gwmpas yma, darllenwch ein Datganiad Mynediad.
Mynediad heb risiau
Mae modd cael i holl fannau cyhoeddus Oriel Môn heb orfod defnyddio grisiau. Mae rampiau wedi'u graddio mewn rhai mannau.
Parcio i'r anabl
Mae gennym 5 lle pwrpasol i’r anabl yn unig eu defnyddio.
Seddi
Ceir meinciau pren yn yr orielau celf.
Cadeiriau olwyn
Mae gan Oriel Môn un gadair olwyn y mae croeso i ymwelwyr gymryd ei benthyg yn ystod eu hymweliad.
I archebu cadair olwyn ymlaen llaw, cysylltwch â ni dros y ffôn neu drwy e-bost.
Dolen anwytho
Mae gennym ddolen anwytho yn siop a derbynfa'r Oriel.
Cŵn gwasanaeth
Estynnir croeso i gŵn tywys, gwasanaeth, clyw a chymorth yn unig ac mae croeso iddynt ym mhob rhan o Oriel Môn. Mae gennym bowlen ddŵr y tu allan i'r brif fynedfa ar gyfer cŵn sychedig.
Toiledau
Ceir toiledau cyhoeddus ar gyfer dynion a menywod a thoiled anabl i’r ddau ryw ger y siop a'r brif fynedfa. Mae hefyd gyfleusterau newid babi ar gael.
Grwpiau
Mae Oriel Môn yn croesawu ymweliadau grŵp. Gyda rhaglen arddangosfeydd cyfnewidiol a phedwar man arddangos bywiog mae rhywbeth at ddant pawb. Ffoniwch ymlaen llaw i'n hysbysu o'ch ymweliad os ydych yn grŵp o 15 neu fwy.
Os ydych yn dymuno archebu sgwrs ar yr oriel gofynnwn i chi roi o leiaf bythefnos o rybudd o’ch ymweliad. I drefnu lluniaeth yn y caffi ar gyfer eich ymweliad gweler ‘cysylltu’n uniongyrchol â'r caffi’.
Bwyd a diod
Yn ystod eich ymweliad â'r Oriel beth am ymlacio a mwynhau'r fwydlen amrywiol a blasus yng Nghaffi Bach y Bocs.
Bydd y staff yn cynnig croeso cynnes i chi ac yn sicr o'ch temtio gyda'u hystod flasus o ddanteithion cartref. Mae ystod o brydau llysieuol a phrydau i blant ar gael i’ch temtio hefyd.
Wifi
Mae gennym wi-fi am ddim ym mhob rhan o'r adeilad.
Lle chwarae
Man picnic a chwarae tu allan.