Neidio i'r prif gynnwys
Gofod amgueddfa gydag arteffactau a phaneli gwybodaeth

Amgueddfa

Fel amgueddfa achrededig, mae gan Oriel Môn gasgliad hynod ddiddorol ac amrywiol o wrthrychau ac arteffactau.

Caiff llawer eu harddangos yn ein hamgueddfa, lle gallwch ddysgu am hanes a thraddodiadau cyfoethog yr ynys. Mae yna hefyd le arddangos dros dro, sydd â rhaglen gyffrous a chyfnewidiol o arddangosfeydd.

Uchafbwynt yr amgueddfa yw'r oriel a neilltuwyd ar gyfer bywyd a gwaith yr arlunydd bywyd gwyllt o fri rhyngwladol, Charles F. Tunnicliffe. Gyda dwy arddangosfa flynyddol, rhaid byddai gweld ei waith celf anhygoel.