Llogi'r lleoliad
Mae gennym nifer o ystafelloedd y gellir eu llogi i gynnal digwyddiadau.
Oriel ac amgueddfa gelf yng nghanol Ynys Môn a ffurfiwyd ym 1990 i gartrefu casgliad Charles Tunnicliffe, yw Oriel Môn.
Mae’n newid bywydau trwy ofalu am dreftadaeth a diwylliant unigryw Ynys Môn a’u dehongli a’u hyrwyddo. Ceisia ysbrydoli creadigrwydd, a chyflwyno cyfleoedd dysgu a mwynhad i bawb.
Bellach caiff Oriel Môn ei rheoli gan Gyngor Sir Ynys Môn ac mae'n dibynnu ar gefnogaeth y Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn ac Ymddiriedolaeth Oriel Môn.
Mae incwm o werthu celf, nwyddau yn y siop, rhoddion a llogi’r lleoliad yn helpu i gefnogi ein rhaglenni addysgol, ymgysylltu â'r gymuned, cadwraeth ac artistig.
Cysylltwch a ni ynglyn â posibiliad archebu.
Ystafell Tunnicliffe
Mae'r ystafell hon wedi'i neilltuo i Charles Tunnicliffe RA (1901-1979), arlunydd bywyd gwyllt mwyaf blaenllaw Prydain yr ugeinfed ganrif. Symudodd i Falltraeth, Ynys Môn ym 1947, lle parhaodd i luniadu, paentio, argraffu a darlunio llyfrau. Cynhyrchodd ysgythriadau ar gyfer nofelau, megis ‘Tarka the Otter’ gan Henry Williamson. Wedi iddo farw, prynwyd casgliad mawr o'i waith mewn ocsiwn gan Gyngor Sir Ynys Môn a sefydlwyd Oriel Môn.
Lle ar gyfer | Technegol |
|
|
Lawrlwythiadau
Oriel Kyffin Williams
Yn 2008, adeiladwyd Oriel Kyffin fel oriel ychwanegol i anrhydeddu gwaith a chyflawniad un o arlunwyr mwyaf poblogaidd Cymru; Kyffin Williams. Daeth Kyffin Williams RA (1918-2006) o hen deulu o Ynys Môn ac astudiodd gelf yn y Slade, Llundain. Bu’n dysgu celf yn Ysgol Highgate, Llundain am ddeng mlynedd ar hugain cyn dychwelyd i fyw a gweithio ym Môn ym 1974. Cyfrannodd Kyffin Williams gannoedd o luniau a phaentiadau, o’r cefn gwlad yr oedd yn ei garu, paentiadau a wnaed ym mhob tywydd.
Lle ar gyfer | Technegol |
|
|