Neidio i'r prif gynnwys
Logo

Datganiad amgylcheddol

Cyhoeddwyd 2020

Bydd y Datganiad Polisi Amgylcheddol hwn yn cael ei gyhoeddi a’i adolygu bob tair blynedd.

Cefndir

Oriel ac Amgueddfa yw Oriel Môn a reolir gan Gyngor Sir Ynys Môn. Lleolir Oriel Ynys Môn ar gyrion tref Llangefni mewn adeilad modern a adeiladwyd ym 1991. Mae Oriel Ynys Môn yn cyflogi 11 aelod o staff sy’n gweithio oriau sy’n cyfateb i 10.5 aelod o staff llawn amser. Mae’r Oriel yn denu tua 80,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Polisi amgylcheddol

Mae Oriel Môn yn cefnogi mabwysiadu arferion cynaliadwy, wedi ymrwymo i leihau ei heffaith ar yr amgylchedd ac wedi ymrwymo i hyrwyddo cynaliadwyedd.

 

Hyfforddiant amgylcheddol

Mae Oriel Môn yn ymdrechu i godi ymwybyddiaeth staff a gwirfoddolwyr am faterion amgylcheddol drwy gyfrwng hyfforddiant mewnol neu drwy ddefnyddio adnoddau a rennir, megis adnoddau’r Ymddiriedolaeth Garbon.

Bydd Oriel Môn hefyd yn briffio staff a gwirfoddolwyr ar y polisi hwn a pholisi amgylcheddol y cyngor. Mae Oriel Môn yn ymdrechu i godi ymwybyddiaeth ymwelwyr am faterion amgylcheddol drwy arddangos negeseuon allweddol yn yr adeilad.

 

Gwelliant parhaus

Mae Oriel Môn wedi ymrwymo i barhau i wella ei pherfformiad amgylcheddol a’r modd yr ydym yn rheoli ein defnydd o’r amgylchedd. Bydd staff Oriel Môn yn cysylltu’n rheolaidd â staff ecolegol ac amgylcheddol Cyngor Sir Ynys Môn, yn dilyn Polisïau Amgylcheddol Cyngor Sir Ynys Môn ac yn sicrhau eu bod yn ymwybodol o ofynion deddfwriaeth a rheoliadau amgylcheddol cenedlaethol presennol, yn cynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn, drwy gyfrwng ei bolisi ynni a dŵr a’i strategaeth rheoli ynni, wedi ymrwymo i ddefnyddio 15% llai o ynni erbyn 2022. Mae’r cyngor hefyd wedi datgan argyfwng hinsawdd ac wedi gneud datganiad.

Mae Oriel Môn yn bwriadu cofrestru a chyrraedd Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd. Bydd Oriel Môn yn ymdrechu i weithredu mesurau i fonitro a lleihau’r defnydd o ynni. Er enghraifft, cyfrifwyd effeithlonrwydd ein system oleuo a chynlluniwyd a phrisiwyd opsiynau mwy effeithlon ac maent bellach wedi eu gosod fel rhan o gynllun ailwampio (Refit) Gorffennaf 2020.

 

Caffael cynaliadwy

Mae Cyngor Môn yn cymryd cynaliadwyedd i ystyriaeth wrth wneud penderfyniadau Caffael. Mae’r Tîm Caffael yn cymryd i ystyriaeth gostau oes cyfan ac effeithiau ein cynnyrch a’n gwasanaethau, ac yn arfarnu perfformiad amgylcheddol ein cyflenwyr a’n contractwyr. Bydd Oriel Ynys Môn yn prynu deunyddiau a chyflenwadau’n lleol lle bynnag bod hynny’n bosib ac mae’n newid deunydd pacio gyda deunyddiau y gellir eu hailgylchu e.e. cardbord yn hytrach na phapur swigod, tâp papur yn lle tâp selo.

Byddwn hefyd yn ail ddefnyddio deunydd pacio wrth anfon archebion allan o’n siop ar-lein. Rydym yn gweithio tuag at fod yn fusnes di-blastig ar Ynys Môn – ac yn gweithio gyda’n contractwyr arlwyo er mwyn darparu hyn. Mae Ynys Môn wedi’i ddatgan fel ynys di-blastig – cynllun a ysgogwyd gan ‘Surfers Against Sewage’.

Mae’r siop hefyd yn gwerthu gwaith gan grefftwyr lleol a chyflenwyr o Ynys Môn a gogledd Cymru. Mae manylion cod post yr holl gyflenwyr i’r siop yn cael eu copfnodi ac mae manylion cod post yr holl gyflenwyr caffi hefyd yn cael eu cofnodi.

 

Gwastraff

Mae Oriel Môn yn annog lleihau gwastraff drwy gynyddu lefelau ailgylchu a hyrwyddo’r arfer o ‘leihau ac ailddefnyddio’ ac rydym yn annog y cwmni arlwyo sy’n rhedeg y caffi, Caffi Bach y Bocs, i weithredu yn yr un modd. Bydd staff Oriel Môn yn sicrhau eu bod yn ymwybodol o gynhyrchion newydd allai gynorthwyo i leihau’r effaith ar yr amgylchedd e.e. goleuadau sy’n arbed ynni, deunyddiau glanhau a deunyddiau eraill, papur, inc argraffu ayyb. Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi ymrwymo i ddefnyddio dulliau gweithio di-bapur ac felly’n buddsoddi’n helaeth er mwyn gwella’r seilwaith TGCh. Mae’r cyfnod Covid a gweithio o adref wedi cael effaith bositif ar leihau gwastraff.

 

Ynni a dŵr

Mae gan Gyngor Sir Ynys Môn rôl allweddol o ran sicrhau bod ein cymunedau yn paratoi ar gyfer y dyfodol. Mae Oriel Môn yn cefnogi lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae Oriel Môn yn ceisio lleihau’r defnydd o ynni a dŵr drwy reoli ynni a gweithredu systemau i fonitro a thargedu defnydd o ynni. Mae’n gwneud popeth posib hefyd i ymchwilio i ffynonellau arian grant allai fod ar gael ar gyfer mentrau arbed ynni ac i wella seilwaith.

Mae Oriel Mon hefyd wedi elwa o raglen Refit Llywodraeth Cymru ac wedi gosod paneli solar (a osodwyd yng Ngorffennaf 2020) a fydd yn lleihau ein defnydd o ynni ynghyd â mesurau arbed ynni llai o amgylch yr adeilad megis newidiadau bach i’r system awyru bresennol.

 

Adeiladu

Bydd unrhyw brosiectau Adeiladu yn cydymffurfio â fframwaith Cyngor Sir Ynys Môn i sicrhau bod prosiectau adeiladu’n cael eu cynllunio, eu caffael a’u hadeiladu yn unol â chanllawiau arfer dda priodol o ran cynaliadwyedd amgylcheddol, yn ogystal â sicrhau’r gwerth gorau am arian. Mae’r adrannau Eiddo a Chyfreithiol yn meddu ar yr arbenigedd a’r fframweithiau priodol.

 

Atal llygredd

Nod Ynys Môn yw lleihau ac osgoi gollwng ac allyrru llygredd a allai niweidio’r aer, tir neu ddŵr ac i leihau a chael gwared ar lygredd sŵn ble bo hynny’n ymarferol.

 

Trafnidiaeth

Mae Oriel Môn yn hyrwyddo ac yn annog defnyddio dulliau trafnidiaeth sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd yn ystod oriau gwaith yn cynnwys rhannu car, trafnidiaeth gyhoeddus (yn arbennig trenau) a beicio. Mae pedwar stand beic gerllaw’r brif fynedfa ac anogir ymwelwyr i feicio i’r Oriel.

Mae Oriel Môn bob amser yn cefnogi dulliau sy’n golygu nad oes rhaid i staff deithio rhwng safleoedd (e.e. drwy wneud defnydd priodol o fideo-gynadleddau ac ers Covid, y defnydd o Teams a Zoom). Mae Oriel Môn yn dilyn canllawiau Cyngor Sir Ynys Môn ar logi ceir ar gyfer teithiau hanfodol er mwyn lleihau costau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â staff yn defnyddio eu ceir eu hunain. Mae’r rhan fwyaf o’r ceir hyn yn rhedeg ar ddau fath o danwydd.

 

Bioamrywiaeth

Nod Oriel Môn yw amddiffyn, gwarchod a gwella’r planhigion a’r anifeiliaid sydd i’w canfod ym mhob un o’i safleoedd. Mae cynlluniau i blannu planhigion brodorol ar y tir o gwmpas Oriel Môn fydd yn denu trychfilod ac adar. Mae’r planhigion hyn yn cynnwys coed perllan brodorol Cymreig, hadau blodau gwyllt, perlysiau a llwyni, yn cynnwys rhai o’r planhigion a ysbrydolodd y chwiorydd Massey.

 

Dysgu

Mae Oriel Môn yn ymdrechu i annog datblygu cynaliadwy drwy gynnwys materion datblygu cynaliadwy yn ein dehongliadau o’r holl bynciau ar y safle.

 

Polisi amgylcheddol

Mae Oriel Môn yn dilyn Polisi Amgylcheddol Cyngor Sir Ynys Môn, sydd wedi ei atodi i’r ddogfen hon. Bydd Oriel Môn yn cynnal archwiliad cynaliadwyedd amgylcheddol yn flynyddol ac yn adolygu ei Gynllun Gweithredu yn unol â’r canfyddiadau. 

Dyddiad: 23 Medi 2020