Lle yn y galon: Kyffin a Dwyrain Môn
Mae’r arddangosfa newydd hon yn canolbwyntio ar hoffter Kyffin Williams o ddwyrain Môn a phenrhyn Penmon.
20 Gorffennaf 2024 tan 2 Chwefror
Mae’r arddangosfa newydd hon yn canolbwyntio ar hoffter Kyffin Williams o ddwyrain Môn a phenrhyn Penmon.
Yn 1954 symudodd ei fam yn ôl i Fôn, i fyw mewn tŷ ger gartref eu cyndeidiau - Treffos, Llansadwrn. Roedd yn ymweld â hi’n gyson yn ystod ei gyfnod fel athro yn Llundain a byddai’n treulio amser yn crwydro’r ardal a darganfod lleoliadau a thestunau newydd ar gyfer ei baentiadau a’i waith darlunio.
Bydd yr arddangosfa’n cynnwys gwaith sy’n dangos nad creu delweddau o nodweddion ffisegol y dirwedd yn unig yr oedd Kyffin, ond yn hytrach roedd yn cofleidio agweddau emosiynol a diwylliannol y dirwedd. Ffurfiodd gyfeillgarwch agos â nifer o bobl a oedd yn byw yno, a phaentiodd bortreadau ohonynt.
Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys sawl darn o waith o gasgliad yr Oriel, ynghyd â gwaith ar fenthyg gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a pherchnogion preifat.
Arddangosion
Oriel o 4 arddangosion