Casgliadau
Casgliadau
Gellir gweld samplau o uchafbwytiau o’n casgliad isod.
O wyneb cerfiog yr Hendy Head, tecstiliau cartrefol y 19eg i beintiadau atmosfferig Kyffin Williams, ymunwch a ni i brofi creadigrwydd trigolion Ynys Môn dros 2,000 o flynyddoedd.
- Charles TunnicliffeMae'r casgliad yn cynnwys ei luniau mesuredig anhygoel, llyfrau brasluniau a lluniadau ffigur, gyda ddetholiad o'i weithiau dyfrlliw a paentiadau olew.
- Kyffin WilliamsYn ystod ei oes rhoes Kyffin Williams, un o arlunwyr mwyaf poblogaidd a pharchus Cymru, bron i 400 o weithiau celf i gasgliad celf Oriel Môn.
- Harry Hughes WilliamsYn ei luniau o dirwedd Gogledd Cymru portreadir amser sydd wedi hen ddiflannu gan ddal hanfod ffyrdd o fyw'r gorffennol.
- Y Chwiorydd MasseyRoedd Gwenddolen ac Edith Massey wedi creu casgliad prydferth a chywir iawn o fywyd botanegol yr ynys yn y cyfnod.
- Leonard McCombYn 2020, derbyniwyd detholiad mawr o waith Leonard McComb a oedd yn gysylltiedig ag Ynys Môn trwy rodd garedig ei chwaer, Anne Draycott.
- Casgliad celfMae gan Oriel Môn gasgliad cyffrous ac amrywiol o luniau a phaentiadau gan lawer o arlunwyr enwog o Gymru.
- ArcheolegMae'r casgliad yn cynnwys offer carreg sy'n dyddio i tua 9,000 o flynyddoedd yn ôl, darganfyddiadau o'r Oes Efydd, darganfyddiadau o'r Oes Haearn o Lyn Cerrig Bach ac arteffactau Rhufeinig o Dai Cochion.
- Casgliad Hanes CymdeithasolMae gan yr Oriel ystod ddiddorol ac eang o eitemau hanes cymdeithasol yn ymwneud ag Ynys Môn.