Neidio i'r prif gynnwys
Tapestri lliwgar o siapiau geometrig
Casgliad

Casgliad Hanes Cymdeithasol

Mae gan yr Oriel ystod ddiddorol ac eang o eitemau hanes cymdeithasol yn ymwneud ag Ynys Môn.

Yn eu plith mae nwyddau domestig o orffennol yr ynys, ynghyd â thecstilau fel gorchuddion gwely wedi'u gwehyddu'n lleol a gwisg draddodiadol.

Mae’r creiriau yn ein casgliad hanes cymdeithasol yn rhoi darlun unigryw i ni o gymdeithas yr ynys dros sawl canrif - o drasiedi’r Royal Charter, y traddodiad o wehyddu ar yr ynys i degannau o’r 70au a’r 80au.

Rydym yn Amgueddfa gydag Achrediad, gyda safonau uchel o ofal casgliadau.

Rydym yn croesawu rhoddion i’r casgliad

Lawrlwythiad