Enillwyr Gwobr Lluniadu Syr Kyffin Williams 2024
Cyhoeddi enillwyr ‘Gwobr Lluniadu Syr Kyffin Williams’ yn Oriel Môn
Mae Oriel Môn yn falch o gyhoeddi fod y chweched arddangosfa ‘Gwobr Lluniadu Kyffin Williams’ nawr ar agor.
Sefydlwyd ‘Gwobr Lluniadu Kyffin Williams’ gan Ymddiriedolaeth Kyffin Williams ac Oriel Môn, er cof am un o artistiaid mwyaf adnabyddus Cymru.
Cynhelir y Gystadleuaeth Lluniadu clodfawr pob tair blynedd. Mae gwobr o £3,000 ar gael i enillydd y brif wobr a gwobr o £1,000 i enillydd y gystadleuaeth i fyfyrwyr.
Ian Fisher o Lanelli yw enillydd y brif wobr eleni. Mae gwaith Ian yn edrych ar dirwedd a diwylliant Cymru drwy gyfres o ysgythriadau a lluniadau. Ei nod yw cyfleu ‘ysbryd llefydd’ yn hytrach na phortreadu tirwedd Cymru’n fanwl gywir. Mae’n edrych ar y berthynas rhwng tirwedd Cymru a’i diwylliant, hanes, celf a mytholeg.
Meddai Ian, “Yn y bôn ffordd o greu lluniad yw ysgythru, ond gan bod modd creu nifer o ddelweddau a’u hamrywio mae’r lluniad yn fwy dramatig ac mae’r broses yn llai caeth na phrosesau eraill.”
Dyma oedd gan Ian i’w ddweud ar ennill y Wobr, “Rydw i’n falch iawn fy mod wedi ennill ‘Gwobr Lluniadu Kyffin Williams’ o gofio bod artistiaid fel Colin See-Paynton ac Eleri Mills wedi ennill y wobr yn y gorffennol. Mae fy ngwaith wedi cael ei ysbrydoli gan ysgythriad o’r 16eg ganrif, ‘Fools Cap Map of the World’. Does neb yn gwybod pam, na phryd y cafodd ei greu, na chan bwy, ac mae’n bosib na chawn fyth wybod”.
“Ro’n i eisiau cynhyrchu map dychanol gan ddefnyddio het y ffŵl, ac mae fy ngwaith yn seiliedig ar y pethau yr ydw i wedi eu darllen, eu gweld neu eu clywed am Gymru. Felly, mae’r darn yn cynnwys pethau gwir ac anwir, ond nid celwydd o reidrwydd.”
Joshua Griffith o Gaergybi, sy’n astudio am radd BA mewn Celfyddyd Gain yng Ngrŵp Llandrillo Menai Llandrillo yw enillydd y gystadleuaeth i fyfyrwyr eleni am ei luniad graffit ac acrylig o’r enw ‘Biomorph #1’.
Meddai Joshua, “Mae fy ngwaith diweddaraf yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng gofod a ffurf. Rydw i fel arfer yn creu cerflunwaith a lluniadau trwy arsylwi. Rydw i’n cael fy nenu at ffurfiau organig a’r ffordd y maent yn ymateb i wahanol amgylcheddau.”
Fe aeth Joshua ymlaen i ddweud, “Hoffwn ddiolch i Oriel Môn a ‘Gwobr Lluniadu Kyffin Williams’ am ddewis fy ngwaith i ar gyfer y wobr i fyfyrwyr. Mae lluniadu wedi chwarae rhan bwysig yn fy siwrne greadigol, ac felly rydw i wrth fy modd fy mod wedi cael cydnabyddiaeth am fy ngwaith drwy ennill y wobr hon.”
Unwaith eto, noddwyd y wobr drwy rodd hael gan y pensaer adnabyddus Mike Davies, a dderbyniodd yr anrhydedd ‘Légion d’Honneur’ gan Arlywydd Ffrainc a CBE gan EM y Frenhines Elizabeth, ac un o sefydlwyr y cwmni ‘Rogers, Stirk, Harbour and Partners’, sef y penseiri a ddyluniodd Adeilad y Senedd yng Nghaerdydd.
Meddai Mr John Smith, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams, “Mae’n bleser mawr gan Ymddiriedolaeth Kyffin Williams gael gweithio mewn partneriaeth ag Oriel Môn, i drefnu’r Wobr Lluniadu eto eleni”.
“Yr hyn sy’n ein hysbrydoli ni i gyd yw egwyddorion creadigol sylfaenol Syr Kyffin, a’i bwyslais ar bwysigrwydd sgiliau lluniadu. Roeddem yn ffodus iawn o gael tri artist enwog o Gymru ar y panel eleni. Hoffwn ddiolch i Eleri Mills, a enillodd y wobr yn 2021, Luned Rhys Parri a Darren Hughes am lunio’r rhestr fer a dewis yr enillwyr. Roedd yn dasg aruthrol.”
“Ar ran yr Ymddiriedolaeth, hoffwn fynegi fy niolch i fy nghyd Gymro a’r pensaer byd-enwog, Mike Davies am noddi’r Wobr Lluniadu am yr eildro eleni. Treuliodd Mike Davies rywfaint o’i blentyndod yn Waunfawr lle disgynnodd mewn cariad â mynyddoedd Eryri cyn mynd i Ysgol Highgate yn Llundain yn y pumdegau hwyr lle bu Kyffin yn ‘Feistr Celf Ysbrydoledig’ iddo.
“Hoffwn ddiolch i’r holl artistiaid sydd wedi cystadlu eleni a holl staff Oriel Môn. Hoffwn ddiolch yn arbennig hefyd i Nicola Gibson, Rheolwr Profiad Ymwelwyr, am ei hymroddiad a’i threfniadau manwl ar gyfer y Wobr Lluniadu.”
Ers i’r Wobr Lluniadu gael ei chynnal am y tro cyntaf yn 2009, mae mwy a mwy o artistiaid o bob rhan o Gymru a Lloegr wedi ymgeisio. Bydd y darnau buddugol gan Ian Fisher a Joshua Griffith, ynghyd â gwaith yr artistiaid a gyrhaeddodd y rhestr fer, yn cael eu harddangos yn arddangosfa ‘Gwobr Lluniadu Kyffin Williams’ yn Oriel Môn rhwng 23 Mawrth a 7 Gorffennaf 2024.