Neidio i'r prif gynnwys

Vivien Whiteley-Toyn

Bywgraffiad

I mi, lluniadu yw conglfaen y gwaith rwy’n ei wneud, ac yn ei edmygu. Rwy'n hoffi deinameg lluniadu llinell; mae'n dod â'r gwaith yn fyw a gall ennyn ymateb angerddol ynof.

Mae llinell ac arlliw, ill dau, yn ymuno â'i gilydd i greu rhythm, gofod tawel a strwythur sylfaenol: wrth ymddangos fel pe baent ond yn chwarae o gwmpas.

Rwy'n aml yn gweithio'n uniongyrchol o bwnc ond rwy'n defnyddio fy arsylwadau i greu printiau, paentiadau a darnau seramig.