Neidio i'r prif gynnwys

Stuart Evans

Bywgraffiad

Wrth ddarlunio’r tirlun o amgylch fy nghartref yn Borth, rwyf wedi bod yn archwilio gwahanol gyfryngau, megis siarcol, graffit ac inc. Mae lluniadu yn yr awyr agored, yna ail-weithio’r ddelwedd ar floc argraffu a throshaenu hwn gydag ystodau mynegiannol o inc argraffu yn herio ac yn datblygu fy mhroses greadigol. Teimlaf fod rhaid ymrwymo’n llwyr i ganolbwyntio ar luniadu a’r agwedd ffisegol ohono. Wrth geisio dal yr egni lluniadu cychwynnol hwn yn fy lluniau print, ceisiaf gynnwys nid yn unig yr olygfa ddewisol ond, hefyd, awyrgylch yr eiliad.