Neidio i'r prif gynnwys

Richard Gibbon

Bywgraffiad

Caiff llawer o’m gwaith ei greu gan ddefnyddio cyfryngau dyfrlliw a gouache, gan gynnwys yn aml gymysgedd o gyfryngau eraill. Yn y bôn, artist tirlun ydw i; mae'r themâu'n deillio o amrywiaeth o ffynonellau megis mynydd-dir, rhostir, cefn gwlad ac arfordir.

Mae lluniadu’n elfen hanfodol o’m gwaith, boed hynny drwy fraslunio neu drwy greu darnau o waith ar wahân, mewn cyfryngau sych a gwlyb. Brasluniwyd y darn arbennig hwn o waith ar ymweliad â Chwm Idwal ac mae’n rhan o ddilyniant o luniadau a phaentiadau, yn seiliedig ar y braslun gwreiddiol.