Neidio i'r prif gynnwys

Pete Monaghan

Bywgraffiad

Arlunydd sy'n arbenigo mewn pensaernïaeth frodorol o Gymru a'r cyrion Celtaidd yw Pete Monaghan. Mae'n asio technegau a gasglwyd o gefndir mewn darlunio (technegol) gyda dylanwadau cyfrwng cymysg a graffiti, gan arwain at waith sy'n dathlu harddwch ac urddas adeiladau gwerinol, cyffredin. Cyfeiria’r beirniad celf, Peter Wakelin, at ei waith “yn un o dun crychlyd a pholion telegraff”.

Mae'n gweithio o stiwdio ger Aberystwyth.