Neidio i'r prif gynnwys

Mzima Tomkins

Bywgraffiad

Artist benywaidd ifanc o Ogledd Cymru ydw i, yn astudio celf a dylunio. Rwy'n aml yn gweithio'n gyflym yn gwneud marciau awgrymiadol a lliw i gynhyrchu delwedd. Dechreuodd gwaith cynhyrchu’r gwaith celf hwn fel arbrawf ond gan fy mod wedi treulio mwy o amser arno, mae wedi dod yn un o fy hoff ddarnau yr wyf i wedi'i gwneud hyd yn hyn. Rwyf wedi defnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau i greu dyfnder, cymhlethiad a diddordeb. I mi mae’r darn hwn yn ymwneud ag ymfalchïo yn fy menyweidd-dra a gallu teimlo fy mod wedi fy ngrymuso yn fy nghorff fy hun, er gwaethaf y byd yr ydym yn byw ynddo.