Neidio i'r prif gynnwys

Martha Dora Grant

Bywgraffiad

Ar hyn o bryd rwy'n fyfyriwr celf ar arfordir Gogledd Cymru. Mae fy ngwaith wedi’i ysbrydoli gan yr ardal lle cefais fy magu, lle rwyf wedi fy amgylchynu gan forluniau hardd a golygfeydd mynyddig. Mae fy nheulu a’m ffrindiau’n ysbrydoliaeth i’m gwaith, gan fy mod yn aml yn eu cynnwys nhw. Mae fy mheintiadau’n archwilio dyfnder ac awyrgylch mewn golygfeydd agos-atoch a thawel, wrth i mi archwilio sgiliau technegol ac arsylwi i ddal cysgodion, golau a theimlad. Byddaf yn aml yn paentio ag acrylig neu olew i gyflawni hyn, yn ogystal â braslunio â siarcol.