Neidio i'r prif gynnwys

Liz McQueen

Bywgraffiad

Yn wreiddiol o Bentraeth, Ynys Môn, mae Liz McQueen yn Artist Tirlun sydd bellach wedi’i lleoli yn Dumfries a Galloway, yr Alban.

Y tirlun sy’n union o amgylch ei chartref yn Eskdalemuir sy’n ei hysbrydoli i baentio a darlunio. Mae cyfansoddiadau’n datblygu allan o gyfuniad o frasluniau bawd mewn graffit a dyfrlliw wrth gerdded, ffotograffau a’r cof – yn aml yn cyfeirio at nodweddion sy’n ei hatgoffa o Gymru. Mae'r ymatebion hyn yn llywio cymhlethiadau, siapiau a lliwiau ei gwaith.