Lisa Carter-Grist
Bywgraffiad
Artist sy'n byw ac yn gweithio yng Ngogledd Cymru yw Lisa. Gan weithio'n bennaf gyda phaentio a lluniadu, mae hi'n ymwneud yn bennaf â gwaith haniaethol. Iddi hi, mae paentio’n fodd i ddigwyddiadau, meddyliau a phrofiadau wrthdaro a throi’n rhywbeth wedi'i drawsnewid.
Mae’n ymddiddori mewn deuoliaeth pethau, gwrthrychau haniaethol a chynrychiolaethol, paentio a lluniadu, y tu allan a’r tu mewn, yr hyn a welir ac a deimlir, ystum ac ataliaeth. Mae ei gwaith yn aml yn dwyn i gof ffigurau sy’n symud trwy drothwyon neu brosesau deinamig mewn natur, lleoliadau lle mae symudiad neu weithred ar droed.
‘Wrth roi fy hun yn fwriadol mewn sefyllfa ansicr wrth weithio, bydd cysylltiad marciau wedi’u paentio a’u lluniadu’n sbarduno fy nychymyg. Beiddgarwch y broses sy’n fy ysbrydoli i’.