Neidio i'r prif gynnwys

Linda Jones

Bywgraffiad

Mae ‘Pwll trai’ yn un o gyfres o ddarnau haniaethol arbrofol. Rwy'n ymdrechu i wthio fy ngwaith i ddod yn fwy haniaethol a greddfol trwy waith llyfrau braslunio, ffotograffiaeth a chwarae.

Meicrocosmau yw pyllau trai – bydoedd bach o ffurfiau bywyd amrywiol a chymhleth wedi’u taflu ynghyd â cherrig, creigiau a chregyn a deunyddiau amrywiol eraill megis glaswellt, plastig, gwrthrychau pren neu fetel.

Mae bodolaeth yn ansicr ac mae'r organebau'n wydn ond yn fregus. Mae’r siapiau, y lliwiau a’r ffurfiau’n hudolus, ac rwyf wedi fy nghyfareddu a’m hysbrydoli gan y modd y maent yn ffynnu yn yr amodau cyfnewidiol hyn, yn y nôl ac ymlaen mewn bywyd a llanw.