Kate Philbin
Bywgraffiad
Rwy’n dod o ogledd Lloegr ac yn byw yn Eryri ers 2019. Cwblheais radd mewn Seicoleg, gan weithio am fwy nag 20 mlynedd yn y gwasanaethau ieuenctid a theulu, cyn dechrau MA ar-lein mewn darlunio gyda Phrifysgol Falmouth yn 2022. Archwiliad awtoethnograffig o’r perimenopos yw’r gwaith. Gan ddefnyddio papur dargopïo, rwy’n archwilio haenau trosiadol prosesu gwybyddol a’r rhwystredigaeth o fethu â dod o hyd i’r geiriau cywir oherwydd niwl yr ymennydd. Mae'r haenau hefyd yn cyfleu ymdeimlad o ddryswch a datgysylltiad - ymdeimlad o ddieithrwch yn fy nghorff fy hun.