Kate Berrisford
Bywgraffiad
Creais fy narn celf ‘Pomgranadau’ gan fod cymhlethdod a manylder ffurfiau naturiol – ffrwythau yn benodol - wedi fy ysbrydoli. Drwy gynhyrchu’r darn hwn, y gobaith yw y gall gwylwyr werthfawrogi’r harddwch a’i gymhlethdod, rhywbeth sy’n cael ei anwybyddu’n aml.
Yn hytrach na dim ond braslunio fy narn celf, penderfynais ddefnyddio cyfuniad o ychwanegion lliwiau a rhai tyniadol i ychwanegu dyfnder ac i helpu i gyfleu’r neges y tu ôl i’m darn – cymhlethdod natur a all, yn aml, ymddangos yn syml.
Penderfynais gyflwyno fy ngwaith celf yng Ngwobr Arlunio Kyffin Williams oherwydd i lawer o ysbrydoliaeth i’m gwaith celf a’m creadigrwydd ddod o’m profiad o natur hyfryd Cymru: ei harddwch naturiol a’i hysbryd.