Jonathan Retallick
Bywgraffiad
Gan dynnu ysbrydoliaeth o dywydd cythryblus a thirlun Ynys Môn, lle’m ganwyd, mae gan fy ngwaith sylfaen gadarn mewn technegau lluniadu traddodiadol a chyfryngau. Yn 2018 dechreuais arbrofi gyda ffyrdd arloesol o gymhwyso a symud paent olew hylifol mewn modd rheoledig ond braidd yn ddigymell. Dros y blynyddoedd esblygodd fy mhroses, gan greu offer a thŵls lluniadu â llaw na ddatgelwyd ac sy'n herio fy rheolaeth o baent a fy symudiad ohono. Trwy greu a thynnu haenau o baent, rydw i wedi datblygu dull hynod o luniadu sy'n golygu bod y delweddau'n ymddangos fel pe baent wedi'u ffurfio'n organig a bron yn ffotograffig o ran esthetig.