John Arthur Jones

Bywgraffiad
Ganwyd JOHN ARTHUR JONES (6.11.1931) ar fferm fach ar Ynys Môn, gogledd Cymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd yn angerddol iawn dros y cefn gwad a’r arfordir, a dechreuodd dynnu lluniau â llaw a phaentio golygfeydd gwledig yn ifanc iawn. Ar ôl ymddeol, cydiodd John unwaith eto yn ei ddiddordeb mewn paentio, ac ar hyn o bryd, mae ganddo gasgliadau o baentiadau o dirluniau gwahanol wedi’u creu’n bennaf o olew a lliwiau dŵr. Dros y blynyddoedd, mae gwaith John wedi cael ei arddangos mewn sawl llyfrgell ac oriel yn Northamptonshire, Theatr y Derngate yn Northampton, yn ogystal â Daventry, Rugby, Corby a Warwick. Ar ôl dod yn ôl i fyw ar Ynys Môn, mae ychydig o’i waith wedi’i dderbyn yng Nghanolfan yr Ucheldre, Caergybi, y Ganolfan ym Miwmares, yr Amgueddfa a’r Oriel ym Mangor ac Oriel Môn, Llangefni. Mae’r arddangosfa hon, ‘The Wales Paintings of John Arthur Jones’, Paentiadau o Gymru – John Arthur Jones, a’r llyfr sy’n cyd-fynd â hi (ar werth yn y siop) y dangos paentiadau’r artist o dirluniau Cymru. Yn yr arddangosfa ceir cofnod o baentiadau o gartref teuluol John yn nhirlun anwastad a hardd Ynys Môn a gogledd Cymru, yn ogystal ag ambell i ddarn gwaith o rannau eraill o Gymru. Mae tri o’r paentiadau yn y llyfr (‘Swtan’, ‘Twyni, Aberffraw’, ac ‘Afon Menai’) wedi’u hepgor o’r arddangosfa hon am eu bod bellach yn rhan o gasgliadau parhaol Oriel Môn, ac mae John yn falch iawn o hyn. Gellir prynu pob darn gwaith arall yn yr arddangosfa ac yn y llyfr - holwch staff yr oriel am ragor o wybodaeth neu anfonwch neges e-bost at paintingsjajones@gmail.com