Jeremy Yates
Bywgraffiad
Caiff fy ngwaith tirlunio diweddar ei gynhyrchu gan ddefnyddio paent acrylig ar bapur neu, fel y gwaith a gaiff ei arddangos, gan ddefnyddio siarcol du cywasgedig a phastel ar baneli gwyn wedi'u preimio ar raddfa fawr. Mae'r rhan fwyaf o fy ngwaith yn seiliedig ar bynciau Cymreig lleol, neu wedi'i weld yn fwyaf diweddar ar ymweliadau â Swydd Efrog. Gweithiau stiwdio yw'r rhain, sy'n defnyddio brasluniau a wnaed yn y fan a'r lle sydd, er gwaethaf yr arsylwi gwreiddiol, yn ymgorffori newidiadau dychmygus neu gyfansoddiadol yn y broses stiwdio. Mae absenoldeb lliw yn ffactor sy'n rhyddhau: daw cymhlethiad, yr arwyneb a chyferbyniad rhwng yr arlliwiau yn eglurach.