Hywel Prytherch Roberts
Bywgraffiad
Gwnaed y darlun byw hwn pan oeddwn yn astudio yn yr Academi Arlunio yn Viborg, Denmarc yn 2023. Cafodd ei dynnu dros gyfnod o wyth awr gan ddefnyddio pensil siarcol. Fe wnes i elwa llawer ar weithio ar yr astudiaeth hon, gan fod y cyfrwng wedi bod yn fodd i mi gael yr arlliwiau tywyllach i lawr yn gyflymach a rhoi mwy o amser i mi fy hun i lunio'r ffurf yn y golau. Dysgais hefyd bwysigrwydd dewis pa ffynhonnell golau i'w dilyn a pha mor syml y gallwn weithio yn y mannau cysgodol.