Neidio i'r prif gynnwys

Harri Carmichael

Bywgraffiad

Rwy’n gweithio’n amlddisgyblaethol ac yn archwilio deunyddiau newydd yn barhaus. Mae datblygiadau mewn biotechnoleg a chreaduriaid mytholegol yn themâu yn llawer o’m gwaith.

Lluniad pensil lliw, manwl o fy llygad dde yw Hunanbortread. Mae hwn yn rhywbeth eithaf amlwg am fy ymddangosiad ac yn unigryw i mi gan mai hon yw'r llygad y mae’r parlys i’m hwyneb wedi cael effaith arni.

Trwy ein llygaid y cawn olwg ar y byd a’r llygaid, hefyd, yw ein “ffenestri i'r enaid”. Gallant ddatgelu llawer am deimladau rhywun. Rwy'n aml yn meddwl tybed a all pobl ddarllen fy emosiynau'n gywir, gydag anghymesuredd fy wyneb.