Elfyn Roberts
Bywgraffiad
Gwelais Golofn y Marcwis am y tro cyntaf pan oeddwn yn fachgen Ysgol, ar Ynys Môn, yn chwarae rygbi yn erbyn Ysgol HMS Conway yn Llanfair P.G. Er y diwrnod hwnnw, rwyf wedi bod â pharchus ofn o’r golofn, cynllun arbennig y pensaer Thomas Harrison, y maint, lliw'r marmor llwyd ac wrth gwrs y Marcwis efydd ar y copa.
Yn y gwaith lluniadu inc, mae cais i ddangos, yn agos, sgiliau cerflunio arbennig y cerflunydd Mathew Noble gyda golch a dyfrlliw, awgrym o’r ‘patina’ Verdigris hyfryd sydd ar yr efydd erbyn hyn, yn agos i ddwy ganrif yn nhywydd garw'r Fenai.