Skip to main content

Elfyn Roberts

Biography

Gwelais Golofn y Marcwis am y tro cyntaf pan oedwn yn fachgen Ysgol, ar Ynys Môn, chware rygbi yn erbyn Ysgol HMS Conway yn Llanfair P.G. Er y diwrnod hwnnw Rwyf wedi bod mewn barchus ofn o’r golofn, cynllun arbennig y pensaer Thomas Harrison, y maint, lliw y marmor llwyd ac wrth gwrs y Marcwis efydd ar y copa.

Yn y gwaith lluniadu inc, mae cais i ddangos, yn agos, sgiliau cerflunio arbennig y cerflunydd Mathew Noble gyda golch a ddyfrlliw, awgrym o’r ‘patina’ Verdigris hyfryd sydd ar yr efydd erbyn hyn, yn agos i ddwy ganrif yn nhywydd garw Y Fenai.