Eileen Newell
Bywgraffiad
Gall lluniadu fod yn ffordd wych o ymateb i ‘le’ – yn gyflym, digymell ac yn uniongyrchol. Mae’n anochel fod uniongyrchedd y dull hwn yn cyfleu rhinweddau arbennig rhythm a ffurf.
Mae ‘Man Cyfarfod’ yn gofnod o’r fath – yn dangos y tir yn cyfarfod â’r môr, y llwybr clogwyni gwyllt â thir amaeth, clystyru ynghyd ffurfiau bryniog ac, yn union y tu ôl i mi, er y tu allan i’r gwaith, eglwys ganoloesol fechan – man cyfarfod y teitl.