Neidio i'r prif gynnwys

Dorothy M. Williams

Bywgraffiad

Mae'r lluniadau hyn yn defnyddio'r ddau lyffant oedd wedi’u gwasgu ac a godais oddi ar y ffordd a'r llyffant oedd wedi’i ddiberfeddu ac a ddarganfyddais ar bostyn giât. Wrth eu gosod allan, roedd eu hagweddau rhewllyd yn awgrymu dawns, a beiro ac inc yn ymddangos yn gyfrwng priodol. Defnyddiais gyfryngau cymysg ar y llun mawr ‘ar y Llinell’ gan anelu at effaith y creadur yn ymdoddi i wyneb y ffordd. Mae’r llun ‘Dynion yn Dawnsio’ yn waith mwy dychmygus ac yn cyfeirio at anhrefn ac wedi’i ddylanwadu gan ysgythriadau’r 19eg ganrif.