Neidio i'r prif gynnwys

Christian Stamas

Bywgraffiad

Lluniadu yw sylfaen fy nghelf. Rwy'n gwneud brasluniau bawd cyflym o siapiau a ffurfiau syml, golau a chysgod, cymesuredd ac anghymesuredd, gan obeithio manteisio ar y llif, y sianel i'r gronfa isymwybodol o brofiad a greddf.

Dewisais y mân luniau hynny gan eu datblygu ymhellach trwy wneud cyfres o luniadau 5x5cm, gan fireinio siapiau a chyfansoddiadau a chyflwyno lliw. Daw'r lluniadau hyn yn daflenni cyswllt, y sail ar gyfer gwaith terfynol.

Mae fy ngwaith celf yn ymateb i anhrefn y byd; mae'n chwilio am lonyddwch, distawrwydd, tawelwch, trefn, a'r harddwch dirgel sydd y tu hwnt i'r anhrefn hwnnw.