Neidio i'r prif gynnwys

Chris Cornwell

Portread o Chris Cornwell

Bywgraffiad

Fel daearegwr, rydw i bob amser wedi bod â diddordeb yn y tirlun a’r byd naturiol. Bellach wedi ymddeol ac yn byw ym mhrydferthwch gogledd Cymru, mae’r cyfle gennyf i baentio’r mynyddoedd, coetiroedd a’r arfordir. Rwy’n herio fy hun i geisio dal ei phrydferthwch, golau ac atmosffer.

Dyfrlliw yw fy hoff gyfrwng. Rydw i wrth fy modd efo’r ffordd mae’n llifo ac yn dryloyw. Ceisio sicrhau rheolaeth o’r sylwedd ar bapur tamp gan wybod fy mod yn troedio llinell denau rhwng trychineb a gorfoledd yw’r hyn rwy’n ei fwynhau. Yn fwy diweddar, rydw i wedi bod yn paentio ag acrylig ac olew gan fwynhau’r her o ddefnyddio gwahanol gyfryngau.

Dyma fy arddangosfa gyntaf yn Oriel Ynys Môn ond byddaf hefyd yn arddangos fy ngwaith yn Galeri Bay Tree yn y Fali, Canolfan Gwybodaeth i Dwristiaid Llangollen a’r Royal Cambrian Academy Open ac amrywiaeth o arddangosfeydd eraill yn y Gwanwyn a’r Haf.

Byddaf yn dangos fy ngwaith drwy www.facebook.com/BrynEurynArt a gellir cysylltu â mi drwy e-bost ar ccornwell299@gmail.com