Chloe Eve Fensome
Bywgraffiad
Rwy'n byw ym mhentref hardd Beddgelert. Portreadau fu fy ysbrydoliaeth erioed wrth greu celf. Rwy’n hoffi celf mynegiant wyneb a dal harddwch rhywun annwyl. Mae’n fy ysbrydoli, hefyd, i herio fy hun i greu darnau manwl.
Marcwyr a phensiliau lliwio yw fy neunyddiau fel arfer. Credaf ei fod yn gweithio orau wrth greu manylion mewn darnau; mae’n fodd i mi greu manylion bach i wneud i ddarn ddod yn fyw.
Mae fy ysbrydoliaeth i’r llun hwn yn golygu llawer i mi. Bu farw fy Nain o ganser chwe blynedd yn ôl ac roedd yn un o fy arwyr. Roedd yn brwydro yn erbyn canser ac roedd gwên ar ei hwyneb, waeth beth oedd y boen. Byddai bob amser yn dweud wrthyf fy mod yn greadigol a hebddi fyddwn i ddim yma heddiw, felly, diolch Nain.