Neidio i'r prif gynnwys

Cheryl Crichton-Edwards

Bywgraffiad

Fe’m ganwyd yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr a bellach rwy’n byw yng Ngogledd Cymru. Astudiais Gyfryngau Arbrofol yn Ysgol Gelf Slade.

Ar hyn o bryd, rwy’n defnyddio siarcol, celfgraff ac inc i ymateb i dirwedd, golau a thywydd fy amgylchedd uniongyrchol. Daw rhan o fy nghyfres gyfredol o waith 'Un Filltir Sgwâr – One Square Mile', o weithio ac arsylwi'n uniongyrchol ar y tirlun y tu hwnt i ffenestr y stiwdio. Mae 'Tyst I' yn ymateb uniongyrchol a mynegiannol i'r golau, y lliwiau a'r tywydd cyfnewidiol a ddaw yn sgil dyddiau tywyll diwedd yr hydref, y newid yn yr hinsawdd ac arswyd sy’n dyfnhau gyda digwyddiadau diweddar.