Bryony Buckley
Bywgraffiad
Waeth beth y byddaf yn ei wneud gyda fy amser, mae celf ar flaen fy meddwl; rwy’n edrych ar weadau, arlliwiau, siapiau, cysgodion a goleuo, ac yn eu harsylwi’n gyson - yn enwedig wrth fynd â fy nghi am dro ar ein bryniau o amgylch Eryri. Yn y blynyddoedd diwethaf, er gwaethaf trafferthion gyda’m hiechyd meddwl, mae lluniadu a chreu wedi bod yn waredigaeth ac yn gysur, gan fy helpu i ddod o hyd i sylfaen a chyflwyno i mi fath ar fyfyrdod.
Mae lluniadu darnau o waliau cerrig yn rhywbeth yr wyf bob amser wedi dod yn ôl ato erioed– fel pe bai rhywbeth amdanynt na allaf ei ollwng. Yr hyn a’m denodd at y waliau yn y lle cyntaf yw cymaint y maent yn ymdebygu i linellau crib, ymylon garw ein mynyddoedd a sut y cânt eu codi’n aml ar glogwyni chwerthinllyd o serth a’r hyn sy’n ymddangos yn glogwyni amhosibl. Maent yn rhyw fath o dirnod traddodiadol o Gymru, rhai ohonynt wedi’u trwytho mewn hanes ac, i mi, maent yr un mor eiconig â’r mynyddoedd a’r afonydd o’n cwmpas.