Neidio i'r prif gynnwys

Bryn Humphreys

Portread o Bryn Humphreys

Bywgraffiad

Rwy’n artist ers bron i ddau ddegawd bellach a dydw i byth yn diflasu ar y broses greadigol.

Gan amlaf, rydw i’n artist tirlun a morlun am fy mod i’n cael fy ysbrydoli’n fawr gan yr hyn sydd o’m cwmpas yma ar arfordir Caergybi.

Fel artist hunan ddysgedig sy’n byw yng Nghaergybi, rwyf wedi treulio’r 21 mlynedd diwethaf yn edmygu harddwch mynyddoedd Eryri a’r arfordir bendigedig o amgylch Ynys Môn. Mae’r pethau o fy nghwmpas wedi dylanwadu’n fawr ar fy ngwaith - Mynydd Twr a’r llwybr arfordir cyfagos - lle mae’r berthynas rhwng y golau, y tywydd a’r tirlun yn tanio fy nghreadigrwydd. Drwy fy ngwaith paentio, rwy’n ceisio adlewyrchu hudoliaeth oesol ac ysbryd y lle hwn rwy’n ei alw’n gartref.

Rwy’n gweithio o fy stiwdio fach yng nghefn yr ardd, sy’n edrych dros Fynydd Twr, felly mae’r lle mwyaf ysbrydoledig i mi weithio. Dyma'r lle rwy’n teimlo’n dawel fy meddwl, ond rwyf hefyd yn gwahodd pobl i ddod i weld fy ngwaith a gwylio’r broses greadigol yn ystod y digwyddiad Stiwdios Agored bob Pasg.