Neidio i'r prif gynnwys

Ann Bridges

Bywgraffiad

Lluniadu arsylwadol sydd wrth wraidd fy ngwaith. Dechreuais gan luniadu gwrthrychau’n fanwl ac ymdrechu i'w trwytho â phresenoldeb a phersonoliaeth, gan edrych ar y perthnasoedd, darluniadol ac emosiynol, sy'n ymddangos wrth eu lluniadu. Mae’r senarios llawn dychymyg y byddaf yn eu gosod ynddynt yn ymddangos yn ddiniwed ond, o edrych yn nes, mae’n ddigon posibl y datgelir tensiwn ac, yn aml iawn, awgrym cynnil o fygythiad, ochr yn ochr â hiwmor ysgafn.

Mae ‘Cwmni Dau’ yn lluniad o ffigurynnau sydd, er gwell neu er gwaeth, yn sownd wrth ei gilydd. Mae’n cynnwys model o Foneddigesau Llangollen o gyfnod pan oeddwn yn Artist Preswyl ym Mhlas Newydd.