Neidio i'r prif gynnwys

Andy Dobbie

Bywgraffiad

Rwy'n cynhyrchu dehongliadau diwydiannol o'r ffigwr dynol gan ddefnyddio estheteg a ysbrydolwyd gan y Modernwyr.

Mae ‘ffurf’ yn fy nghyfareddu: sut mae golau’n taro wynebau ffurf, yn taflu cysgodion ac yn creu siapiau negyddol a sut mae symudiad o amgylch y ffurf yn newid ein canfyddiad o’r rhain.

Rwyf hefyd yn chwilfrydig gyda’r ffordd y defnyddiwn olwg ymylol a chof i ddeall ffurfiau a chreu darlun meddyliol o ‘beth’ yw pethau a ‘lle’ y maent.

Y ffigwr dynol yw fy mhrif nodwedd gan ei fod yn cynnig yr ‘arfogaeth’ berffaith ar gyfer fy arbrofion oherwydd y gall ymdopi â symleiddio ac ystumio heb ddod yn gwbl anadnabyddadwy.