21 Medi - 3 Tachwedd
Cysylltiadau Lliw
Mae’r arddangosfa hon gan Andrew Smith a John Hedley yn cyflwyno paentiadau newydd a gwaith ar y cyd diweddar sydd â chysylltiadau lliw llachar a dadlennol.
21 Medi tan 3 Tachwedd
Mae Cysylltiadau Lliw yn dod â dau artist ynghyd gan archwilio lliw mewn arlunio. Mae John Hedley yn cyflwyno gwaith a baentiwyd ar goed a ddaeth i lawr gyda’r gwynt o Erddi Bodnant, ac o Ynys Môn a Chreta, gan ddefnyddio olew a cherfwedd metel, gan ddatgelu hanes y goeden mewn termau symbolaidd a haniaethol drwy gyfrwng lliw. Mae Andrew Smith yn cyflwyno gwaith haniaethol lliwgar ar gynfas a grëwyd mewn ymateb i le a lleoliad. Mae cyfnodau preswyl diweddar yn Tsieina a Moroco wedi ysbrydoli gwaith newydd a grëwyd yn ei stiwdio yn Harlech.
Arddangosion
Oriel o 8 arddangosion