![Oriel Charles Tunnicliffe](/image-library/galleries/oriel-cft.xd1dc3f3f.webp?width=2560&format=webp&quality=80)
Oriel
Oriel Charles Tunnicliffe
Ym Malltraeth ger aber yr Afon Cefni ar Ynys Môn yr oedd stiwdio yr artist ac o’r stiwdio hon y bu’n gweithio am 35 mlynedd. Lluniau yn portreadu cyfoeth bywyd gwyllt Môn a ddaeth ag enwogrwydd i Charles Tunnicliffe ond hefyd roedd yn cynhyrchu tirluniau ac astudiaethau o bobl leol.