Neidio i'r prif gynnwys

Wayne Summers

Bywgraffiad

Yn deillio o archwiliad o henebion angladdol cynhanesyddol Prydeinig (yn bennaf), mae fy arfer, ar hyn o bryd, yn damcaniaethu ar ddehongli’r gorffennol a’n perthynas naturiol amwys â marwolaeth. Yn hytrach na cheisio cofnodi topograffeg safleoedd penodol, mae’r gwaith yn ceisio ennyn diddordeb y gwyliwr mewn myfyrdod o orffennol diflanedig ac anesboniadwy er mwyn ailddatgan gwerth dirgelwch a’r digrif mewn byd sydd i raddau helaeth yn parchu’r empirig (ac yn seiliedig arno). Y tu hwnt i hyn, mae ymgais i ymholi beth sy’n ein hysgogi i ddyfeisio a datblygu defodau: boed er mwyn egluro, rheoli neu liniaru digwyddiadau arwyddocaol ein bywydau. Yn Y Pedwar Pedwarawd, Mae T.S. Eliot yn cynnig nad yw “dynol ryw yn medru cymryd llawer o realiti.” Mae defod – a all gynnwys gwneud ac ystyried gweithiau celf – yn cynnig modd i leddfu, neu o leiaf liniaru, baich y realiti hwnnw.