Neidio i'r prif gynnwys

Robert Newell

Bywgraffiad

Mae fy ngwaith yn y maes paentio a darlunio wedi mynd trwy gyfnodau penodol, bellach yn greigiau a chymylau yng Nghymru yn bennaf. Mae’r pynciau hyn yn ymwneud ag anturiaethau mater mewn prosesau ffurfiannol a dinistriol, treigliad strwythur a phatrwm, tensiynau rhwng trefn ac anhrefn, a gweithio gyda hyn oll gyda’r nod o gynhyrchu trefniadaeth rhythmig o fanylion a màs sy’n adlewyrchu cydadwaith grymoedd corfforol dros amser. Mewn perthynas ag amodau amrywiol o olau ac awyrgylch, mynegir cymeriad penodol trwy’r elfennau gweledol hyn sy'n cyfrannu at gyfanrwydd pŵer esthetig y tirlun.