Myfi Cooke
Bywgraffiad
Yn draddodiadol, darn o gelf a grëwyd ar bapur gyda phensiliau neu feiros yw llun. Credaf y gellir creu lluniadau hefyd o fathau eraill o gyfryngau wrth ddal i gyfleu hanfod y llinell sy’n diffinio natur lluniadu.
Rwy’n gweithio gyda thecstilau ac yn cael fy ysbrydoli gan seicedelia’r 60au, patrymau cynhyrchiol ac artistiaid megis Mary Quant, Andy Warhol a Yayoi Kusama. Mae fy nhreftadaeth Gymreig hefyd yn ganolog i’m gwaith a’m proses greadigol.
Fy uchelgais yw dilyn gyrfa yn y diwydiant tecstilau a’m gobaith yw creu gwaith sy’n ysbrydoli ac yn tynnu sylw at fy nhreftadaeth ddiwylliannol.