Neidio i'r prif gynnwys

Manon Carpenter

Bywgraffiad

Rwy’n fyfyriwr ar y cwrs Sylfaen Celfyddyd Gain ym Mharc Menai a’r gobaith yw mynd i’r brifysgol eleni i astudio darlunio. Rwy’n mwynhau creu celf yn arbennig, sy’n adlewyrchu rhan o’n byd, neu fy mhrofiad i ohono, yn enwedig trwy amlygu’r drefn feunyddiol.

Yn y gorffennol, rwyf wedi cael fy nghomisiynu i wneud paentiadau, yn ogystal â dylunio a darlunio poster ar gyfer drama yn Seland Newydd. Yn ychwanegol at fy astudiaethau yn y coleg (sy’n cynnwys briffiau megis gweithio gyda mannau arddangos yn Pontio, Bangor), ar hyn o bryd, rwyf yn lansio a golygu cylchgrawn cydweithredol sy’n ceisio rhoi gofod i bobl greadigol (gan gynnwys fi) rannu eu gwaith â’r cyhoedd.