Jenny Armour

Bywgraffiad
Rydw i’n gweithio o’m stiwdio yn Nhyn-y-Gongl, Ynys Môn, lle mae popeth yr ydw i angen mewn bwyd ar gael ar garreg y drws – yr awyr, y tir a’r môr. Rydw i wrth fy modd efo’r golau a’r llinellau y mae’r rhain yn eu creu ac maent yn fy ysbrydoli, y golau yn enwedig. Mae’n anodd iawn cyfleu’r newid yn y tywydd, y llonyddwch a’r gwynt ar bapur neu ar gynfas.
Paent acrylig ydi fy hoff gyfrwng – weithiau byddaf yn rhoi’r mymryn lleiaf o baent ar y brws fel petawn yn defnyddio paent dyfrlliw a thro arall byddaf yn rhoi haenau trwchus o baent gan ddefnyddio cyllell balet fel petawn i’n defnyddio paent olew. Mae’r math yma o baent yn sychu’n gyflym ac felly mae’n fy ngorfodi i weithio’n gyflymach ond mae hefyd yn rhoi’r hyblygrwydd i mi weithio gyda’r paent, gwneud newidiadau neu hyd yn oed olchi’r cyfan a dechrau eto. Mae’n well gen i ddefnyddio offer DIY na brwsys paent. Rydw i wrth fy modd yn arbrofi er mwyn ceisio cyfleu symudiad cychod hwylio, yr awyr a’r môr a byddaf yn edrych i weld sut mae artistiaid eraill wedi gwneud hyn yn llwyddiannus.
Fel y bydd unrhyw un sydd wedi dysgu’i hun i arlunio yn gwybod, mae hi weithiau’n anoddach asesu yr hyn yr ydych chi am ei baentio. Pan fydda i, ar adegau, yn paentio fel rhan o grwp rydw i fel arfer yn crwydro oddi ar y testun. Yn aml iawn dydi fy ngwaith i ddim yn edrych ddim byd tebyg i waith pawb arall, sydd yn gallu bod yn beth cas ar adegau ond ar y llaw arall rydw i’n teimlo’n ffodus fy mod i’n wahanol.
Gan nad ydw i wedi cael addysg ffurfiol ym maes celf dydw i ddim yn teimlo ‘mod i’n gorfod cydymffurfio ag unrhyw reolau neu theorïau y baswn i wedi’u dysgu ac, yn ôl pob tebyg, wedi’u dilyn o wybod sut berson ydw i. Os ydw i’n teimlo bod y gwaith yn rhy gaeth neu’n gyfyngedig mewn unrhyw ffordd, rydw i’n dechrau eto. Rydw i’n mwynhau’r rhyddid sydd gen i rŵan ac oherwydd bod gen i ddigon o le adref rydw i’n gallu mynegi fy hun bob dydd os y dwi i’n dymuno gwneud hynny, ac mi fydda i’n gwneud hynny bob dydd fwy neu lai.
Mae 'na rywbeth ynof sy’n ceisio dianc ac mi fyddai’n ceisio ail-greu’r hyn yr ydw i’n ei deimlo a’i weld wrth baentio. Mae’r gwahanol dymhorau’n effeithio arna i’n fawr ac yn aml iawn rydw i’n defnyddio lliwiau nad ydw i’n eu gweld, ond rydw i’n eu teimlo. Weithiau mae’r golau yn fy stiwdio’n newid yn gyflym iawn. Mae hyn yn effeithio ar y paentiadau gyda rhai’n dod yn fwy atmosfferig ac eraill yn oleuach neu’n fwy llachar nac yr oeddent ar y dechrau.
Wrth deithio’r byd rydw i, fel y rhan fwyaf o artistiaid, yn cael eu swyno gan y golau. Rydw i mewn byd arall pan rydw i’n paentio ac mae’n fraint ceisio cyfleu’r teimlad hudolus y mae’r golau’n ei roi ni a wna i fyth flino o hynny, yn enwedig â minnau’n byw mewn ardal mor hardd.