Neidio i'r prif gynnwys

Jennifer Moffitt

Bywgraffiad

Artist a darlunydd o orllewin Cymru ydw i gyda BA (Anrh) mewn Celfyddyd Gain o Brifysgol Aberystwyth. Mae’r gwaith rwy’n ei wneud ar hyn o bryd yn seiliedig ar leoedd rydw i wedi ymweld â nhw o gwmpas Cymru. Canolbwyntio ar bwyntiau allweddol sydd o ddiddordeb i mi, o’r hanesyddol i’r pensaernïol a thirlun Cymru. Mewn pensiliau amrywiol rwy’n gweithio ar hyn o bryd, ond rwyf, hefyd, yn mwynhau gwneud darnau cyfrwng cymysg. Y lluniad hwn o Gerflun Parc Margam yw’r cyntaf mewn cyfres sy’n seiliedig ar bensaernïaeth Parc Margam ac fe’i gwnaed gan ddefnyddio pensiliau 4B ac 8B.